Mabwysiadu plentyn o dramor

Gallwch fabwysiadu plentyn o dramor os:

  • ni ellir gofalu amdanynt mewn amgylchedd diogel yn eu gwlad eu hunain
  • byddai’r mabwysiadu er eu budd gorau
  • aseswyd bod y mabwysiadwr yn gymwys ac addas ar gyfer mabwysiadu o dramor gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU

Os ydych chi am fabwysiadu plentyn o dramor, dylech gysylltu â naill ai:

Mae’r broses fabwysiadu yn debyg i fabwysiadu yn y DU ac fe’i gwneir gan asiantaeth fabwysiadu’r DU a allai godi ffi.

Mae yna sawl cam arall, er enghraifft:

  • anfonir yr asesiad at yr awdurdod mabwysiadu dramor
  • bydd angen i chi ymweld â’r plentyn yn ei wlad ei hun
  • anfonir eich cais i wlad y plentyn
  • bydd asiantaeth fabwysiadu’r DU yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud

Ffioedd am Fabwysiadu Tramor

Mae’r Adran Addysg (DfE) yn codi ffi o £1,975 am brosesu’ch cais. Mae’r ffi wedi’i heithrio rhag TAW.

Cysylltir â chi ynglŷn â sut i dalu’r ffi unwaith y bydd eich cais wedi’i dderbyn.

Mae’r ffi yn cynnwys rheoli achosion ond nid yw’n cynnwys costau cyfreithloni.

Cysylltwch â’r awdurdod perthnasol i ddarganfod mwy am ffioedd a gweithdrefnau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cyfyngiadau

Mae’r DU wedi cyfyngu mabwysiadu o’r gwledydd canlynol:

  • Cambodia
  • Guatemala
  • Nepal
  • Haiti
  • Ethiopia

Rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Mabwysiadu Trawswladol os ydych chi am fabwysiadu plentyn o unrhyw un o’r gwledydd hyn. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig, gan ddweud wrthynt y rhesymau pam y dylai eich achos fod yn eithriad. Gallwch ddarllen y rhesymau am y cyfyngiadau.

Intercountry adoption casework team
Level 0, Riverside
Bishopsgate House
Feethams
Darlington
DL1 5QE

Os ydych chi’n byw dramor

Rhaid i chi ddilyn deddfau mabwysiadu’r wlad rydych chi ynddi os ydych chi fel arfer yn byw yn y wlad honno ac eisiau mabwysiadu.

Rhaid i chi ddilyn cyfraith mabwysiadu’r DU os ydych chi’n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel fel rheol. Weithiau gelwir hyn yn ‘breswylfa arferol’ a gall fod yn berthnasol hyd yn oed os ydych yn byw dramor adeg y mabwysiadu.

Efallai y bydd yn rhaid i chi roi datganiad ar lw o flaen cyfreithiwr nad ydych chi fel arfer yn byw yn y DU, Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel os yw’r wlad yn gofyn am lythyr ‘dim gwrthwynebiad’ gan lywodraeth y DU. Rhaid i chi anfon y datganiad hwn naill ai at y Tîm Mabwysiadu Trawswladol yn yr Adran Addysg neu lysgenhadaeth agosaf Prydain.

Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn – naill ai yn y DU neu dramor – ac yna’n teithio neu’n symud i drydedd wlad, efallai na fydd y mabwysiadu yn cael ei gydnabod yn y wlad honno. Os oes gennych unrhyw amheuon dylech gael cyngor cyfreithiol.

Cofrestru mabwysiadu

Gallwch wneud cais i gofrestru mabwysiadu tramor yn y Gofrestr Plant a Fabwysiadwyd ar gyfer Cymru a Lloegr os:

  • digwyddodd y mabwysiadu mewn gwledydd penodol tramor
  • roedd y rhiant neu’r rhieni’n preswylio fel arfer yng Nghymru a Lloegr adeg y mabwysiadu
  • gall y rhiant neu’r rhieni ddarparu’r holl ddogfennau ategol