Eich data a’r hyn rydym yn ei wneud gydag e
Pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC), byddwn fel arfer yn gofyn am eich enw llawn, rhif ffôn a manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref neu’r ddau). Byddwch hefyd yn rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen ar gyfer gwneud ymholiad neu ddefnyddio/edrych ar ein gwefan trwy gwcis eich porwr.
Sefydliad cydweithredol yw’r GMC sy’n cynnwys awdurdodau lleol trwy bum gwasanaeth mabwysiadu
rhanbarthol a thair Asiantaeth Mabwysiadu Wirfoddol (AMG) a thîm canolog sy’n arwain ac yn cydlynu’r
gwaith. Felly, rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ble mae hynny’n angenrheidiol i roi gwasanaeth da i chi. Nid yw hyn yn digwydd yn aml, ond gall gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r isod gael ei rhannu ble mae angen er mwyn cynorthwyo gyda:
• Ymholiadau
• Anfodlonrwydd neu gwynion
• Adroddiadau perfformiad
• Marchnata
• Ymholiadau eraill am y gwasanaeth a chyngor
Wrth wneud hyn, mae’r GMC yn deall pwysigrwydd parchu’ch cyfrinachedd a’ch hawliau o gylch diogelu
data. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu dim ond ble mae hynny’n angenrheidiol ac yn unol â’n
rhwymedigaethau gwasanaeth a chyfreithiol. Mae’r gwasanaeth yn gweithio o fewn Safonau Llywodraeth
Cymru mewn perthynas â rhannu gwybodaeth. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma: Hafan –
Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (llyw.cymru)
O bryd i’w gilydd efallai bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn danfon gwybodaeth
atoch chi yr ydym yn credu y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol. Os ydych chi wedi cytuno i dderbyn
deunydd marchnata, gallwch ddewis peidio ar unrhyw adeg. Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i stopio’r
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i’n
partneriaid.
Polisi Preifatrwydd
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn
gosod unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Gellir gweld y polisi trwy’r ddolen ganlynol: National
Adoption Service – Privacy Policy (adoptcymru.com)
Sut i gysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd neu rannu gwybodaeth y
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
029 2087 3927
Os hoffech chi wybodaeth am y data mae’r gwasanaeth yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech chi arfer un o’ch hawliau diogelu data, cysylltwch â’ch asiantaeth yn gyntaf, neu, os nad ydych chi’n derbyn gwasanaethau ar hyn o bryd, y rhan honno o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol y buoch yn cysylltu â nhw ddiwethaf.
Download version available here. (Opens PDF version)