Cam 1- Dechrau

Ar ôl cael eich cymeradwyo fel rhiant mabwysiadol gan banel mabwysiadu, cewch eich trosglwyddo i’r tîm darganfod teuluoedd lle bydd gennych weithiwr cymdeithasol newydd darganfod teuluoedd. Bydd y tîm gyda chi trwy bob cam o’r broses darganfod teuluoedd a byddant yn parhau i gynnig cefnogaeth nes bod Gorchymyn Mabwysiadu yn cael ei ganiatáu.

Cam 2 – Ymweliad gan ddarganfyddwr teuluoedd (mwy o wybodaeth)

Bydd eich darganfyddwr teuluoedd a ddyrannwyd yn dod i’ch cyfarfod ynghyd â’ch gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu. Dyma ‘ymweliad trosglwyddo’ i’r tîm darganfod teuluoedd ac i archwilio meini prawf paru yn fwy manwl er mwyn cynorthwyo’r broses baru.

Cam 3 – Cadw mewn cysylltiad wrth baru

Y tu ôl i’r llenni bydd llawer o baru/cysylltu yn digwydd. Bydd darganfyddwyr teuluoedd yn eich diweddaru cymaint â phosibl.

Cam 4 – Gwybodaeth ddienw

Pan nodir cyswllt posibl, trefnir ymweliad cartref i’r darganfyddwr teuluoedd rannu gwybodaeth gyda chi. Mae hyn er mwyn rhannu gwybodaeth ddienw am y plentyn/plant er mwyn eich helpu i ystyried a ydych chi eisiau gwybod mwy am y plentyn/plant. Os nad ydych yn teimlo bod y pariad hwn yn iawn i chi, yna bydd y darganfyddwr teuluoedd yn parhau i ddod o hyd i’r plentyn ‘iawn’ i chi.

Cam 5 – Ymweliad gweithiwr cymdeithasol

Os ydych am fynd ar drywydd y cyswllt posibl a nodwyd, bydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant yn ymweld gyda’r darganfyddwr teuluoedd i rannu gwybodaeth fanylach a chyfoes. Os bydd y pariad hwn yn mynd rhagddo, byddwch yn mynd ymlaen i gwrdd ag athrawon y plentyn/plant, y teulu maeth, gweithwyr iechyd proffesiynol a staff addysg os yw’n briodol. Efallai y bydd cyfle hefyd i fynychu ‘Diwrnod Deall y Plentyn’ lle edrychwn ar brofiadau bywyd cynnar y plentyn a meddwl sut mae’r rhain wedi effeithio ar y plentyn nawr ac yn y dyfodol.

Cam 6 – Cyfarfod Paru

Pwrpas y Cyfarfod Paru yw dwyn ynghyd yr holl wybodaeth berthnasol am y plentyn a chi ar ffurf adroddiad. Byddwch yn darllen ac yn ychwanegu eich sylwadau at yr adroddiad, sydd wedyn yn cael ei rannu gydag aelodau’r Panel yn barod ar gyfer y Panel Paru. Mae’r cyfarfod hwn hefyd yn ystyried y Cynllun Cymorth Mabwysiadu, sy’n edrych ar gefnogaeth barhaus i’r plentyn ac i chi.

Cam 7- Mae’r holl wybodaeth yn mynd i’r Panel Paru

Mae’r holl wybodaeth yn mynd i’r Panel am argymhelliad Paru.

Cam 8 – Gwneuthurwr Penderfyniad yr Asiantaeth (ADM)

Rhaid i argymhelliad y Panel gael ei gadarnhau gan wneuthurwr penderfyniadau’r Asiantaeth yn awdurdod lleol y plentyn.

Cam 9 – Cyfarfod y plentyn

Ar ôl cwblhau’r holl gamau hyn, bydd eich darganfyddwr teuluoedd yn cynllunio gyda chi’r cyflwyniadau lle byddwch chi’n gallu cwrdd â’ch plentyn/plant

Paratoi

Wrth baratoi ar gyfer plentyn yn ymuno â’ch cartref a’ch teulu efallai y bydd gennych ychydig o bethau i’w gwneud i sicrhau trosglwyddiad haws i’ch plentyn. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan eich darganfyddwr teuluoedd, ond gallai hyn gynnwys:

  • Cyfarfod ag oedolion ym mywyd y plentyn (gweithwyr cymdeithasol, teulu maeth, athrawon, ac ati).
  • Fideos/llun ohonoch chi’ch hun ar gyfer y plentyn.
  • Recordiad llais o ddarllen llyfrau.
  • Newidiadau bach yn y cartref i ddiwallu eu hanghenion h.y. gatiau diogelwch.
  • Cadw’ch calendr yn glir.
  • Cyfnewid ‘arogl’ i blant ac anifeiliaid.

Mae pob achos yn wahanol felly am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch darganfyddwr teuluoedd.

Cefnogaeth a ddarperir

Wrth fabwysiadu gyda SEWAS darperir cefnogaeth ar gyfer pob cam o’r daith i fabwysiadu. Mae gennym bedwar tîm a fydd yn eich tywys trwy’r broses:

  • Recriwtio ac Asesu: Bydd y tîm hwn yn eich cefnogi ac yn eich asesu o’ch ymholiad cychwynnol, trwy gydol eich asesiad a hyd nes y byddwch yn dod yn ‘fabwysiadwr cymeradwy’.
  • Canfod teulu: Bydd y tîm hwn yn paru rhieni a phlant gyda’i gilydd i ddod o hyd i’r ffit orau i deuluoedd. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant i deuluoedd yn ôl yr angen.
  • Cymorth Mabwysiadu: Mae’r tîm hwn yn cefnogi unrhyw un y mae mabwysiadu wedi cyffwrdd ag ef, p’un a ydych chi’n berson mabwysiedig, rhieni mabwysiadol, teulu biolegol; mae’r tîm cymorth mabwysiadu yma i chi. Mae’r tîm hwn wrth galon ein cymuned fabwysiadu SEWAS, yn rhedeg grwpiau rheolaidd ac yn darparu cyngor a chefnogaeth.
  • Tîm Cymorth Busnes: Mae’r tîm hwn yn sicrhau bod SEWAS yn rhedeg yn esmwyth, gan ddiwallu holl anghenion gweinyddol y gwasanaeth.

Bydd gennych weithiwr cymdeithasol mabwysiadu wrth weithio gyda phob tîm. Rydym hefyd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm dros y ffôn ac e-bost i gael cyngor trwy gydol y broses.