Teuluoedd Mabwysiedig:

Mae SEWAS yn cydnabod bod teuluoedd sy’n mabwysiadu yn elwa o berthyn i’r gymuned fabwysiadu. Rydyn ni am i chi deimlo ein bod ni yno ochr yn ochr â chi ar eich taith gan eich galluogi i gael gafael ar y gefnogaeth gywir a chysylltu â’ch gilydd. Hoffem i chi ein gweld fel rhan o’ch rhwydwaith cymorth. Gall magu plant fod yn heriol ar brydiau ac rydyn ni am eich helpu chi a’ch teulu i gael y profiad mabwysiadu mwyaf cadarnhaol. Gall hyn fod trwy hyfforddiant, cyfeirio, ymgynghoriadau, grwpiau cymorth ac wrth gwrs helpu plant i ddeall eu stori. Trwy ein Tîm Cymorth Mabwysiadu, rydym yn cynnig ymrwymiad gydol oes i deuluoedd.

Mae gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.

Mae’r daflen hon yn esbonio’r amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael a sut i gael gafael arni

Cyswllt Ôl-Fabwysiadu

Hyrwyddir cyswllt ôl-fabwysiadu yn aml fel cyfnewidiadau blwch llythyrau rhwng teulu sy’n mabwysiadu a theulu biolegol/pobl eraill arwyddocaol. Mae SEWAS yn darparu cefnogaeth i bawb sy’n ymwneud â blwch llythyrau ac yn cydlynu’r cyfnewidfeydd gan sicrhau bod pob llythyr yn ddiogel ac yn briodol.

Teuluoedd Biolegol:

Pan fydd y cynllun ar gyfer plentyn yn cynnwys mabwysiadu, cynigir cymorth i rieni biolegol a pherthnasau eraill y mae hyn yn effeithio arnynt. Gall teulu biolegol gael gafael ar gymorth, os yw hyn yn rhywbeth y maen nhw ei eisiau neu ei angen i’w helpu trwy’r broses fabwysiadu neu ar ôl i’r mabwysiadu ddigwydd. Mae’r gweithiwr cymorth mabwysiadu yn annibynnol ar weithiwr cymdeithasol y plentyn a gall gynnig cyngor, gwybodaeth a help unigol.

Dyma daflen sy’n egluro peth o’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig:

Mae gan y ddolen hon rywfaint o wybodaeth fanylach am y broses fabwysiadu a’r hyn y mae’n ei olygu i rieni biolegol.

Os ydych chi’n feichiog ac yn ystyried mabwysiadu fel opsiwn, gallai’r daflen wybodaeth hon helpu gyda rhai cwestiynau a allai fod gennych.

Oedolion Mabwysiedig:

Gall penderfynu edrych i mewn i’ch hanes biolegol a mabwysiadol fod yn un o benderfyniadau mwyaf eich bywyd. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Gweler y cyswllt isod i ddarganfod mwy o wybodaeth.