Yn SEWAS credwn mai clywed stori mabwysiadwr yw’r ffordd orau i bobl ddeall y broses. Fe wnaethon ni estyn allan at un o’n mabwysiadwyr am stori onest am fabwysiadu. Dyma beth ddywedon nhw…
Archser Roc a Rôl
Nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd a fyddaf byth yn gallu diolch i’m plant am yr hyn y maent wedi’i roi i mi. Nid rhyw stori dylwyth teg eiddil yw hon am ba mor berffaith yw ein bywydau neu ein plant. Mae pethau wedi mynd yn anodd a gallant fod yn heriol iawn o hyd. Fodd bynnag, mae’r munudau hyn wedi bod yn gatalydd i newid y ffordd rwy’n edrych ar fy hun, fy ngŵr, fy mhlant a’r byd o’m cwmpas – bu’n rhaid i mi wneud hynny. Hebddyn nhw, ni fyddwn yn gwybod fy nherfynau, yn gwybod gwir ystyr hunanofal nac yn gwthio fy hun i gwblhau BSc mewn Seicoleg. Yn sicr, byddwn wedi colli allan ar swm rhyfeddol o lawenydd a hapusrwydd.
Daeth fy mhlant (fy noli a’m diwd) at ein teulu yn 9 mis oed, fy noli yn gyntaf ac yna fy niwd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Maent bellach bron yn 7 a 4. Nid ydynt yn frodyr a chwiorydd genedigol ac maent yn wahanol iawn eu cymeriad, mae ganddynt wahanol hoffterau, gwahanol alluoedd ac oherwydd eu gwahaniaethau defnyddir pob agwedd ar fy nghymeriad yn barhaol – sydd i fod yn hollol onest yn flinedig.
Mae fy Noli yn llawn bywyd a gwir ddyfalbarhad ac roedd yn llawn bywyd o’r eiliad y gwnaethon ni gwrdd â hi. Mae hi’n benderfynol ac yn ‘gwybod beth mae hi eisiau’, rhywbeth rydyn ni’n ceisio ei annog sydd, yn ein barn ni, wedi ei galluogi i fachu gafael ar bopeth sydd gan fywyd i’w gynnig. Mae hi’n mynd yn bryderus weithiau ac mae ei ‘hanghenfil ofn’ yn amlygu ei hun mewn dicter a chynddaredd llwyr ond ymddengys bod hyn yn rhywbeth y mae hi a ninnau yn dysgu cyfathrebu o’i gwmpas.
Rydyn ni’n ei helpu i weithio allan yr hyn y mae hi’n poeni amdano/yn ei ofni, fodd bynnag nid yw ei phlagio i wneud hynny pan mae hi wedi gwylltio yn helpu o gwbl. Gwneir y gwaith go iawn yn nes ymlaen wrth ei rhoi yn y gwely ac mae’r cyfan yn dod allan. Rydym hefyd wedi derbyn y bydd angen i ni ei hatgoffa’n barhaus nad ydym yn mynd i unman, yn enwedig ers i ni golli fy mam i ganser 2 flynedd yn ôl. Wedi dweud hynny, y dyddiau hyn mae hi’n ferch fach hapus ar y cyfan sy’n perfformio mewn sioe yn y theatr yn fuan, enillodd ei bathodyn gymnasteg rhif 5 ar y trampolîn, cafodd ei hethol yn gynrychiolydd blwyddyn 2 ar y cyngor ysgol, mae hi wedi dysgu nofio fel pysgodyn, bydd yn neidio ar y roller-coaster uchaf, mae ganddi lawer o ffrindiau a hi bob amser yw’r un olaf ar y llawr dawnsio mewn parti neu ŵyl (ddydd neu nos). Rwy’n falch iawn ohoni ac yn ei charu’n anferthol.
Fy niwd bach yw’r plentyn mwyaf cariadus y gallwn i ddychmygu. Yn ddatblygiadol mae y tu ôl i blant eraill sydd bron yn 4 oed a gall gael eiliadau o reolaeth byrbwylltra gwael, y credwn gall fod o ganlyniad i FASD. Mae hyn wedi bod yn anodd ar adegau, yn enwedig ymddiheuro i linell o 10 rhiant yn y chwarae meddal. Fodd bynnag, mae ei iaith yn datblygu’n araf, ochr yn ochr â’i allu i gyfathrebu ac mae’n meithrin synnwyr digrifwch drygionus iawn. Mae addfwynder a thynerwch yn y Diwd sy’n toddi calonnau’r bobl y mae’n cwrdd â nhw. Efallai na fydd yn gallu cyfrif i 5 eto ond gall ddal a phlycio tannau’r gitâr gyda’r gorau ohonyn nhw ac mae wrth ei fodd â cherddoriaeth, gan fwynhau perfformio i’w neiniau a theidiau pan fydd ei chwaer yn rhoi cyfle iddo gael amlygrwydd o bryd i’w gilydd. Mae’r diwd bach yn hynod o gariadus a bydd yn taflu ei freichiau o’m cwmpas ac yn fy ngwasgu nes prin y gallaf anadlu a bydd yn dweud ‘you mumma’ (sy’n golygu ‘Dwi’n dy garu di’). Rwy’n ei garu’n fwy na dim ac weithiau ar ôl diwrnod gwael byddaf yn mynd ato am gwtsh ac mae’n anadlu bywyd yn ôl i’m hesgyrn blinedig. Mae’n eironig mai ei ddeffroad am 4 y bore yw’r hyn a’m gwnaeth yn flinedig yn y lle cyntaf.
Mae cerddoriaeth yn thema gyson yn ein teulu. Ar hyd llinellau a chyngor gwrthrychau pontio ac ati fe ddaethom o hyd i enw tîm teulu a logo ar ôl gwylio ffilm lle’r oedd gan fand eu siant eu hunain fel eu defod cyn perfformiad. Fe wnaeth pob un ohonom feddwl am yr enw ‘Archser Roc a Rôl’ a logo ar gyfer cylchoedd allweddi. Pan fydd un ohonom ni wedi cynhyrfu ychydig neu fod pontio o’n blaenau, neu unrhyw bryd mewn gwirionedd, rydyn ni’n rhoi ein dwylo ar ein gilydd ac yn llafarganu Archser Roc a Rôl ac maen nhw wir yn uniaethu ag ef. Mae’n arbennig o giwt pan mae’r diwd bach yn gweiddi ‘ol soostars’ ar ben ei lais.
Er nad oedd ganddyn nhw gysylltiad genedigol, mae ein plant yn agos iawn at ei gilydd ac yn amddiffyn ei gilydd yn ffyrnig. Wedi dweud hynny, ni fyddai’r naill na’r llall yn meddwl ddwywaith cyn rhoi pwniad yn gyfnewid am lond ceg o goco pops wedi’i ddwyn, siblingiaid nodweddiadol mae’n siŵr. Rydyn ni wedi bod yn hynod agored gyda Dolly (dydi’r Diwd bach ddim yn deall eto) am eu gwreiddiau, eu rhieni biolegol a’u bywyd cynnar ac mae’n gweithio i ni fel teulu. Empathi i bawb yw ein nod rhif 1. Hyd nes y bydd yn ymwneud â choco pops, yn amlwg.
Ymhlith y bywyd prysur rhyfeddol hwn rydyn ni wedi dysgu mai trefn arferol yw’r peth mwyaf lleddfol rydyn ni wedi’i ddarparu iddyn nhw ac i fod yn onest mae fy ngŵr a minnau’n elwa o hynny hefyd. Nid ydym erioed wedi bod mor ddisgybledig allan o reidrwydd – mae myfyrio, darllen a diffodd y golau am 10pm yn cynnig ei fanteision amlwg i ni.
Un tro roedd fy ngŵr a minnau mewn band, wedi treulio llawer o amser ar y ffordd ac yn mwynhau’r holl hwyl a ddaeth gydag ef. Mae bywyd bron yn anadnabyddadwy nawr, yn ymwneud yn bennaf â bod yn rhieni i 2 o blant heriol iawn ond rhyfeddol. Ni fyddem yn mynd yn ôl a’i newid am unrhyw beth yn y byd – wel y rhan fwyaf o’r amser.